- Math o rôl: Gwirfoddol (ymrwymiad hyblyg)
- Lleoliad: O Bell / Hybrid (cyfarfodydd bob 3 wythnos, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb yn ôl yr angen)
- Yn adrodd i: Pennaeth Gweithrediadau (Arweinydd y Grŵp Gwaith)
Am Bandiau Pres Cymru // Brass Bands Wales
Bandiau Pres Cymru // Brass Bands Wales yw’r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer bandiau pres ledled Cymru. Ein bwriad yw hyrwyddo, cefnogi a lobïo ar ran y mudiad band pres, gan ddathlu ei hanes gyfoethog, cryfhau ei ddyfodol, a chynyddu llais bandiau Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.
Am y Rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn cymhellol a chreadigol i arwain ein gwaith CC a chyfathrebu ac i helpu siapio’r strategaeth gyfathrebu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rôl allweddol yn y ffordd mae BPC // BBW yn cysylltu â’r gymuned fandio, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid ym maes addysg, y celfyddydau a llywodraeth.
Prif Gyfrifoldebau
- Datblygu a gweithredu strategaeth CC a chyfryngau cymdeithasol sy’n cyd-fynd ag amcanion ac ymgyrchoedd BPC // BBW.
- Rheoli a thyfu presenoldeb BPC // BBW ar draws gwefannau cyfryngau cymdeithasol (Facebook, X/Twitter, Instagram, Tiktok ac ati).
- Paratoi datganiadau i’r wasg a newyddion proffesiynol ac diweddariadau am weithgareddau, digwyddiadau a gwaith eiriolaeth BPC // BBW.
- Cydlynu cysylltiadau â’r cyfryngau, gan baratoi straeon ac erthyglau ar gyfer y wasg leol a chenedlaethol.
- Cefnogi hyrwyddo digwyddiadau mawr, galwadau cyllido a mentrau bandio yng Nghymru.
- Gweithio gyda’r Grŵp Gwaith BPC // BBW i sicrhau negeseuon a brandio cyson.Monitro ymgysylltu gyda BPC/BBW ac adnabod cyfleoedd i dyfu cyrhaeddiad ac effaith BPC // BBW.
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
- Profiad o reoli cyfryngau cymdeithasol, marchnata neu gyfathrebu.
- Sgiliau ysgrifennu a golygu cryf gyda sylw i arddull a chywirdeb.
- Creadigrwydd a hyder wrth ddefnyddio offer digidol ar gyfer amserlennu a chreu cynnwys.
- Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm gwirfoddol bach.
Dymunol
- Cyfarwyddyd â’r sector band pres, sefydliadau cerddoriaeth, neu eiriolaeth gelfyddydol.
- Sgiliau yn y Gymraeg (dymunol ond nid yn hanfodol).
Ymrwymiad Amser
Hyblyg, tua 2–3 awr yr wythnos, yn dibynnu ar lefel gweithgaredd a digwyddiadau.
Beth Fyddwch Chi’n Ennill
- Cyfle i helpu siapio sut mae llais cenedlaethol bandio Cymreig yn cael ei gynrychioli.
- Cyfle i adeiladu eich portffolio a’ch proffil proffesiynol ym maes CC a chyfathrebu.
- Profiad o weithio gyda chorff celfyddydol cenedlaethol parchus.
- Y boddhad o helpu i dyfu a hyrwyddo’r mudiad band pres yng Nghymru.
Sut i Wneud Cais
Os ydych yn angerddol am gyfathrebu y celfyddydau, ac yn enwedig Bandiau Pres yng Nghymru, byddem wrth ein bodd i glywed wrthoch. Bydd ffurflen gais ar-lein yn gofyn y cwestiynau canlynol:
- Rhowch grynodeb byr o’ch gyrfa/profiad ac unrhyw gymwysterau proffesiynol.
- Crynhowch unrhyw rol wasanaeth cyhoeddus neu wirfoddol rydych wedi’i wneud (e.e. yn ynad, cadeirydd llywodraethwyr ysgol, cynghorydd).
- Rhowch enwau dau gyfeirnod, un o gapasiti proffesiynol ac un personol, y gallwn gysylltu â nhw nawr neu yn nes ymlaen. Nodwch os gallwn cysylltu a’r gyfeirnod cyn gwneud cynnig.
- Datganiad personol. Defnyddiwch hyn i roi unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol neu i egluro beth allwch chi dod i’r rôl (uchafswm 350 o eiriau).

