Y penwythnos diwethaf (16eg a 17eg Medi) cynhaliwyd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Adrannau 1-4 ar Gae Ras Cheltenham, gydag 8 band yn cynrychioli Cymru ar draws y 4 adran. Roedd y rhain yn cynnwys;
Adran 4
Dinas Caerdydd Melin Gruffydd 2 a Seindorf yr Oakley
Adran 3
Seindorf Arian Crosskeys ac Seindorf Arian y Drenewydd
Adran 2
Band Bwrdeistref y Fenni a Band Bwrdeistref Casnewydd
Adran 1
Seindorf Biwmares a Band Cwm Ebwy
Erbyn diwedd y penwythnos, roedd dim llai na 3 band Cymraeg ymhlith yr enillwyr gyda Band Cwm Ebwy, o dan eu Harweinydd Gareth Ritter yn dod yn Bencampwyr Cenedlaethol (Adran 1) a Seindorf Biwmares o dan Bari Gwiliam hefyd ar y podiwm yn 3ydd safle. Yn Adran 3, daeth Seindorf Cross Keys dan arweiniad Sion Jones yn ail.
Llongyfarchiadau arbennig i’r holl enillwyr, ond hefyd i’r holl fandiau eraill (a’u harweinyddwyr), a roddodd yr holl oriau o waith caled, nid yn unig yn gerddorol, ond hefyd o ran codi arian a threfnu logisteg, wrth gyrraedd y Rowndiau Terfynol a chynrychioli Cymru ar y llwyfan cystadlu Cenedlaethol.