Ymunwch â Bandiau Pres Cymru a Tabby Kerwin, cwmni Mode For a chrëwr ‘Brass on the Mind’ mewn cwrs hyfforddiant codi ymwybyddiaeth pwrpasol AM DDIM (rhithwir) wrth i chi a’ch band ystyried ailgydio mewn ymarferion, cyngherddau a chystadlaethau.

Un o’n huchelgeisiau yw cefnogi bandiau pres yng Nghymru gyda hyfforddiant ym maes iechyd meddwl, gan ddarparu’r platfform hwn fel cam arall yn y gwaith o godi mwy o ymwybyddiaeth ymhlith ein bandiau ac aelodau.

Bydd Tabby – awdur, hyfforddwr perfformiad, eiriolwr a hyfforddwr iechyd meddwl, cerddor a chyhoeddwr yn edrych ar wahanol feysydd iechyd meddwl yn ogystal ag adnoddau ar gyfer ymdopi i helpu gyda’ch iechyd a lles cyffredinol.

Dydd Sul 23 Mai
10am-12pm a 1pm-3pm

Cwrs a gyflwynir ar sail gweithdy 4 awr yw hwn, a rennir yn ddwy ran. Er mwyn cymryd rhan a chael budd o’r cwrs mae’n rhaid i chi fod yn bresennol yn y ddwy sesiwn ar 23 Mai. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a chânt eu cynnig ar y sail ‘y cyntaf i’r felin’.