Roedd llawer o fandiau yn camu i lwyfan y Gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2 flynedd, ar ôl wynebu heriau aruthrol yn ystod y cyfnod hwnnw (oherwydd y pandemig). Roedd ambell un yn amlwg yn brin o ran niferoedd ar y diwrnod, ond yn dal i ddyfalbarhau’n ddewr ac i’w llongyfarch am eu hymdrechion (waeth beth fo’r canlyniad!).
Rhaid llongyfarch y bandiau sydd bellach wedi cymhwyso i gynrychioli Cymru yn ddiweddarach eleni, yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn Cheltenham a Llundain, yn ogystal â Phencampwriaethau Ewrop yn Malmo y flwyddyn nesaf.
Y bandiau buddugol a’u harweinyddion priodol yw:
Pedwerydd Adran:
Seindorf Arian Crosskeys (Sion Rhys Jones), Seindorf Arian y Rhyl (Jamie Duncan)
Trydydd Adran:
Cwmtawe (Wayne Pedrick), Seindorf Crwbin (Alex McGee)
Ail Adran:
Seindorf Biwmares (Bari Gwilliam), Mid-Rhondda (Thomas Coaches) (Alan Gibbs)
Adran Gyntaf:
Tref Pontarddulais (Paul Jenkins), Ebbw Valley (Gareth Ritter)
Adran Bencampwriaeth:
Cory (Philip Harper) ynghyd â gwahoddiad i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd 2023, Tredegar (Ian Porthouse), Llaneurgain (Daniel Brooks), Dinas Caerdydd (M1) (Christopher Bond)
Dymunwn yn dda iddynt i gyd ar gyfer y Rowndiau Terfynol!