Yn dilyn y symudiad diweddar i Lefel rhybudd 0 yng Nghymru, mae Bandiau Pres Cymru yn
gallu cyflwyno cyfres o argymhellion ar gyfer parhau ymarferion a pherfformiadau diogel i
fandiau pres ar draws Cymru.
O 7fed Awst 2021, caniatawyd i bob math o adeiladau fod ar agor. Nid oes unrhyw derfynau
cyfreithiol ar nifer o bobl sydd yn gal cwrdd, sy’n cynnwys ymarferion a digwyddiadau /
perfformiadau. Ond, o dan Lefel rhybudd 0, bydd trefnwyr yn parhau i fod â dyletswydd
gyfreithiol i gynnal asesiad risg penodol COVID-19 a chymryd camau rhesymol i leihau’r risg
o ddod i gysylltiad â coronafirws.
Asesiadau risg
Mae’n bwysig cadw asesiad risg cyfoes mewn lle gan fod COVID-19 yn parhau i gynrychioli
perygl i iechyd. Byddwch yn barod i newid eich asesiad risg wrth i’r sefyllfa datblygu mewn
llinell ag unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau. Rydym yn awgrymu eich bod yn
parhau i ystyried y canlynol:
a) Profi – annog aelodau i gymrid Profion Llif Unffordd cyn pob ymarfer.
b) Awyru – cynnal awyru da yn eich ymarfer neu fan perfformio.
c) Hunan-ynysu – atgoffwch eich aelodau i hunan-ynysu os oes gannddynt symptomau neu
os yw GIG Profi Olrhain Diogelu wedi cysylltu â chi. Sylwch fod y rheolau ar gyfer pobl sydd
wedi’u brechu’n ddwbl a phlant wedi newid ar 7 Awst 2021.
d) Tagfeydd – osgoi tagfeydd mewn ardaloedd cymunedol. A ydych chi’n gallu cynnal system
unffordd i mewn ac allan o’ch fan ymarfer? Caniátau i nifer uchaf o bobl ymgynnull mewn
ardaloedd cymunedol fel toiledau a choridorau.
e) Gorchuddion wyneb – mae’r rhain yn parhau i fod yn orfodol mewn mannau cyhoeddus
dan do a dylid eu gwisgo bob amser heblaw wrth eistedd a chwarae.
Trafodaeth a’ch Aelodau
Ar ôl i chi gylchredeg eich asesiad risg i’ch aelodau, gofynnwch am adborth i sicrhau bod
cyfranogwyr unigol yn gyfforddus â’ch lliniaru iechyd a diogelwch. Bydd hyn yn galluogi
aelodau i wneud awgrymiadau ychwanegol ac yn caniatáu i chi ddod i gonsensws ar unrhyw
fesurau diogelwch COVID-19 a oedd yn orfodol ond a ddaeth yn fater o farn bersonol o 7
Awst 2021.
Pellter Corfforol
Mae’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru yn nodi:
“Yn dilyn y newid yn y gyfraith, mae cadw pellter corfforol yn dal i fod yn fesur rhesymol y
gellir ei gymryd, ac mewn llawer o amgylchiadau mae’n debygol y bydd yn ofynnol ei
gymryd, ond nid yw bellach yn cael ei bwysleisio’n benodol. Mae hyn yn golygu, os gellir
cymryd mesurau eraill i leihau risg, er enghraifft symud i’r awyr agored, ei gwneud yn ofynnol
i bobl gael eu profi neu eu brechu, defnyddio sgriniau ac ati, efallai na fydd angen cadw
pellter corfforol neu efallai y bydd ei angen i raddau llai.”
Felly, er nad yw pellter corfforol yn orfodol mwyach, gall fod yn ystyriaeth i’ch sefydliad yn
dibynnu ar eich mesurau eraill, yn ogystal â chonsensws cyffredinol eich aelodaeth.
Gwybodaeth Bellach
Rydym yn parhau i awgrymu penodi ‘swyddog COVID-19’ i gymryd cyfrifoldeb am sicrhau
arfer da bob amser, gan gynnwys yr asesiad risg a sicrhau bod mesurau mewn lle.
Atgoffir yr aelodau bod y wybodaeth hon at ddibenion arweiniad yn unig ac y gellir dod o hyd
i’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau o wefan Llywodraeth Cymru.
I ddarganfod mwy am yr argymhellion yng Nghymru ar gyfer cyflogwyr, busnesau a
sefydliadau, ewch i:
https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0-canllawiau-i-gyflogwyr-busnesau-sefydliadau