Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ynglŷn canllawiau COVID yng Nghymru (o 27 Mawrth 2021 ymlaen), nid oes unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau a osodir ynghylch caniatáu i fandiau pres gwrdd â pherfformio tu fewn.
Mae Bandiau Pres Cymru yn ymgysylltu’n weithredol â chroestoriad eang o sefydliadau a chyrff cynghori, er mwyn sicrhau pan fydd gweithgareddau’n cael eu hail-gychwyn yn raddol, y bydd wedi sefydlu’n glir pa fesurau fydd angen, er mwyn iddi fod ymarferol a diogel i bob parti wneud hynny. Cyhoeddir canllawiau pellach ynghylch diogelu ac asesiadau risg, fel y bo’n briodol.
Ar hyn o bryd ni chaniateir sesiynau grŵp i blant yn bersonol heblaw fel rhan o addysg ffurfiol mewn ysgolion.
Yn y cyfamser, mae Bandiau Pres Cymru yn annog pawb i ddilyn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
Negeseuon allweddol
Diogelu Cymru:
- cadw pellter cymdeithasol (a elwir hefyd yn bellter corfforol) bob amser – aros 2 fetr (3 cham) oddi wrth bobl eraill (nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd neu aelwyd estynedig), o dan do ac yn yr awyr agored
- golchi’ch dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr am 20 eiliad, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
- gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau o dan do, ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu mewn mannau dan do eraill bob amser os nad yw’n bosibl cadw pellter o 2m oddi wrth eraill
- os ydych yn cwrdd ag unrhyw un nad yw’n rhan o’ch aelwyd estynedig, dylech aros yn yr awyr agored
- gweithio gartref os yw’n bosibl
- hunanynysu gartref os ydych chi, rhywun sy’n byw gyda chi neu rywun yn eich aelwyd estynedig:
- wedi sylwi ar symptomau COVID-19, a dylai’r person â symptomau hefyd archebu prawf
- wedi cael prawf COVID-19 positif
- Mae’n rhaid i unrhyw un sydd wedi cael gwybod gan y Tîm Profi Olrhain Diogelu eu bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf COVID-19 positif hefyd hunanynysu gartref.
Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r cwestiynau cyffredin a’r canllawiau manwl ar reoliadau Cymru. Mae’r rhain yn rhoi gwybod beth y cewch ac na chewch ei wneud, ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.