Mae gwawr newydd wedi torri i fandiau pres yng Nghymru gyda chyflwyniad gwefan ac
aelodaeth corff cynrychioliadol cenedlaethol newydd, Bandiau Pres Cymru / Brass Bands
Wales. Daw’r cyflwyniad yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a pum mis o gynllunio gan
Grŵp Llywio etholedig i ddechrau’r sefydliad.
Mae’r sefydliad wedi dechrau ar y gwaith angenrheidiol o gynrychioli Cymru, er enghraifft
wythnos diwethaf ar weminar rithwir, ‘Celtic Connections’ a ddaeth â chynrychiolwyr o’r cyrff
bandiau pres cenedlaethol yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynghyd i drafod popeth
bandiau pres ac effeithiau pandemig COVID-19. Yn ogystal, bydd cynrychiolydd o Band Pres
Cymru nawr yn ymuno â chynrychiolwyr cenhedloedd eraill y DU mewn cyfarfod rhithwir
wythnos nesaf gyda Caroline Dinenage AS, i drafod trefniadau teithio Ewropeaidd ar gyfer
bandiau pres, yn dilyn y mater yn cael ei godi yn Y Senedd Brydeinig gan yr AS Cymraeg, Alex
Davies-Jones.
Mae aelodaeth am ddim yn y flwyddyn gyntaf ac ar gael i fandiau (aelodaeth band) ac unigolion
(aelodaeth gyswllt), gan alluogi mynediad at lu o fuddion, gan gynnwys: ostyngiadau gan
gyhoeddwyr cerddoriaeth, aelodaeth ar gyfer sefydliadau partner, cyngor ar gyllid, ynghyd â
mynediad i ardal ‘Y Hwb’ ar wefan y sefydliad a’r wybodaeth bod aelodau’n cefnogi un llais i
Gymru.
Bydd y gwefan newydd yn gweithredu fel siop un stop ar gyfer bandiau pres yng Nghymru, gyda
nifer o nodweddion gan gynnwys map rhithwir o fandiau sydd yn aelodau, cronfa ddata
cyfansoddwyr sydd newydd ei sefydlu, cyfeiriadur o gysylltiadau, yn ogystal â darparu
diweddariadau ar newyddion o Gymru a gweddill y byd. Yn ogystal i hun, mae’r sefydliad yn
cyflwyno pedwar platfform cyfryngau ar Facebook, Twitter, Instagram a YouTube, lle bydd
cynnwys newydd yn cael ei bostio’n rheolaidd.
Dywedodd y Cadeirydd, Andrew Jones: “Mae’n rhyfeddol meddwl doedd Bandiau Pres Cymru
ddim yn bodoli pedwar mis yn nol, ond diolch i waith caled tîm bach o wirfoddolwyr, mae’r
freuddwyd hon wedi dod yn wir heddiw. Hoffwn cymred y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi
cyfrannu at y prosiect hwn, gan sicrhau bod y sefydliad yn cael y cychwyn gorau phosib. Rhaid
rhoi sylw arbennig i’r dylunydd logo a brandio Richard Dwyer o ‘Lovely Stuff Studio’ a Jacob
Hamblett o ‘21st Webb Ltd’ am ddylunio gwefan gwbl ddwyieithog a fydd yn bwynt cyfeirio
rhagorol i’r gymuned bandiau pres yng Nghymru ac yn bellach. Rydym nawr yn edrych ymlaen
at dderbyn ein ceisiadau aelodaeth gyntaf.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer aelodaeth band neu aelodaeth gyswllt, ewch i
www.bandiaupres.cymru (Cymraeg) neu www.brassbands.wales (Saesneg).