Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein digwyddiad rhithwir am ddim nesaf , sydd yn canolbwyntio ar y pwnc o gyllido a dod o hyd i gyllid i chi, eich band neu grŵp cymunedol.

Oes gennych chi brosiect rydych chi am ddatblygu? Eisio dysgu mwy am wahanol ffynonellau cyllid? Angen help ar sut i ysgrifennu cynigion neu ffurflenni cais cyllido? Dyma’r cwrs i chi!

Dydd Sul 6ed Mehefin & Dydd Sul 13eg Mehefin 10am-1pm
AM DDIM

Nodyn – Mae’r cwrs yn cael ei redeg mewn dwy ran a rhaid i chi allu mynychu’r ddwy sesiwn i gwblhau’r cwrs.

Pwy mae’r cwrs ar gyfer?

Mae’r cwrs yma ar gyfer aelodau o Fandiau Pres Cymru ac mae ganddyn uchafswm o 20 lle ar gael. Fyddwch yn dysgu am wahanol ffynonellau cyllid, fyrdd o feindio cyllid ar gyfer eich prosiect a’r sgiliau elfennol sy’n ofynnol ar gyfer ysgrifennu cynigion. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol. Fysan ddefnyddiol os gallwch ddod â phrosiect / syniad mewn golwg ond nid yw hyn yn hanfodol.

Pwy sy’n rhedeg y cwrs?

Mae Laura yn ysgrifennwr cais a chodwr arian profiadol ar ôl dod â symiau o gannoedd o bunnoedd i gannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyfer digwyddiadau a rhaglenni celfyddydau a diwylliannol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae ei chefndir a’i gwaith yn dal i fod yn rhan o gynhyrchu gwyliau, digwyddiadau a theithiau creadigol, ac felly mae’r sesiwn hon wedi’i gwreiddio yn ei phrofiad o orfod codi arian.

Cofrestrwch yma

Mae’r digwyddiad yma ar gyfer aelodau Bandiau Pres Cymru. Mewn cofnodwch i’r Hwb i gofrestru:

Ddim yn aelod eto? Dim problem! Mae aelodaeth am ddim i fandiau ac unigolion. Darganfod mwy:

https://bandiaupres.cymru/aelodaeth/

Ariennir y digwyddiad hwn gan Tŷ Cerdd